Cod y Modiwl GW10410  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH 2. GWLEIDYDDIAETH GYMHAROL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Siobhan Harty  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Y Athro Michael Foley, Dr Jennifer Mathers  
Elfennau Anghymharus IP10410  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr Nifer o ddarlithiau 18 x 1 awr (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y Seminarau/Tutorials 5 x 1 awr (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr Arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   Traethawd 1,500 o eiriau.   30%  

Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn arfogi myfyrwyr a'r sgiliau ddadansoddi fel y gallant astudio bywyd gwleidyddol. Byddwch yn astudio y dull o ddadansoddi cymharol ac yn cloriannu'r prif ddamcaniaethau ar ddeall sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Wedyn byddwch yn mynd ati i astudio amrywiaeth mawr o systemau gwleidyddol, gan edrych ar y strwythurau a'r trefniadau sy'n gysylltiedig a llywodraeth ffurfiol megis cyfansoddiadau, seneddau, arlywyddiaethau. Byddwch hefyd yn astudio rol a dylanwad sefydliadau megis y lluoedd arfog neu'r fiwrocratiaeth. Byddwch hefyd yn dysgu am ffurfiau o gyfraniad gwleidyddol lle y gall pobl ddylanwadu ar wleidyddiaeth, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol, etholiadau, mudiadau'r bobl gyffredin, a charfanau buddiannau. Yn olaf byddwch yn astudio sut mae polisiau sydd yn cael effaith ar fywyd pob dydd dinasyddion yn cael eu ffurfio a'u gweithredu.

Nod y modiwl
Bydd y modiwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr sylfaen gadarn yn y technegau a'r syniadau allweddol sy'n gysylltiedig a dadansoddi bywyd gwleidyddol. Bwriedir iddo gyd-fynd ag IP10210 trwy roi i'r myfyrwyr y gallu sydd ei angen ar gyfer dadansoddi empeiraidd.

Amcanion
Ar ddiwedd y modiwl byddwch yn medru:

Rhestr Ddarllen
Llyfr
Todd Landman. Issues and Methods in Comparative Politics: An Introduction (2000).
Gabriel Almon, G Bingham Powell, Kaare Strom and Russell J Dalton. Comparative Politics; A World View, 7th ed (2000).
Michael G Roskin. Countries and Concepts: An Introduction to Comparative Politics, 5th ed (1995).
Jean Blondel. Comparative Government: An Introduction, 2nd ed. (1995).
Robert Theen and Frank L Wilson. Comparative Politics: An Introduction to Seven Countries, 3rd ed (1996).
Gregory S Mahler. Comparative Politics: An Institutional and Cross-National appreach, 2nd ed (1995).
Rod Hague, Martin Harrop and Shaun Breslin. Comparative Government and Politics: An Introduction, 4th ed (1998).