Cod y Modiwl GW10610  
Teitl y Modiwl HANES RHYNG2: NIXON I DREFN Y BYD NEWYDD 1968-HEDDIW  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Jennifer Mathers  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Y Athro Mick Cox, Y Athro Ian Clark, Dr Susan Carruthers  
Elfennau Anghymharus IP10610  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y Seminarau 5 x 1 awr (Yn Gymraeg)  
  Darlith   18 Awr Nifer y darlithiau 18 x 1 awr (Yn Saesneg)  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr Arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   Traethawd 1,500 o eiriau.   30%  

Amcanion
Ar ddiwedd y modiwl hwn dylech fedru:

- deall y newidiadau yn nodweddion polisi tramor yr Unol Daleithiau o gyfnod cyfyngiad i gyfnod trefn newydd y byd.
- esbonio gweddnewidiad polisi tramor sofietaidd o'r saithdegau hyd chwalfa'r UGSS yn nechrau'r nawdegau.
- cloriannu'r gwahanol ddamcaniaethau ar ddiwedd y Rhyfel Oer.
- bod yn ymwybodol o faterion yn natblygiad y trydydd byd
- deall effaith diwedd y Rhyfel Oer ar y gyfundrefn ryngwladol.
- esbonio cynnydd rhanbarth Asia-y Mor Tawel.
- medru trafod y newidiadau yn natur 'diogelwch' yn ystod y cyfnod wedi'r Rhyfel oer.

Elfennau anghymharus - IP10610

Nod y modiwl
Amcan y modiwl hwn yw olrhain datblygiadau allweddol mewn hanes rhyngwladol o ddiwedd y chwedegau hyd ddiwedd y
Rhyfel Oer ac wedyn i'r cyfnod wedi'r Rhyfel Oer.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
T Vadney. The World since 1945, 2nd ed (1992).
M Walker. The Cold War and the Making of the Modern World (1994).
S Amrose. Rise to Globalism: American Foreign Policy since 1938, 6th ed (1991).