Cod y Modiwl GW11710  
Teitl y Modiwl CYMRU YNG NGWLEIDYDDIAETH PRYDAIN  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Dafydd Trystan  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus IP10710  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y Seminarau 5 x 1 awr (Yn Gymraeg)  
  Darlith   18 Awr Nifer y darlithiau 18 x 1 awr (Yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr Arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   Traethawd 1,500 o eiriau.   30%  

Disgrifiad cryno
Bydd y cwrs yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i'r gyfundrefn wleidyddol ym Mhrydain gan roddi sylw arbennig i leoliad
Cymru oddi mewn i'r gyfundrefn honno. Bydd yn trafod:

(1) y gwahanol sefydliadau etholedig ac anetholedig sy'n ffurfio'r wladwriaeth, y gwahanol gysyniadau ac egwyddorion sy'n rheoli
eu hymddygiad, a'r modd y cynrychiolir ac yr ymdrinir a Chymru ganddynt;

(2) y pleidiau gwleidyddol a'u traddodiadau.

Nod y modiwl
Darparu cyflwyniad cyffredinol i drefn wleidyddol y wladwriaeth Brydeinig, gan roi sylw arbennig i leoliad Cymru oddi mewn i?r gyfundrefn honno.

Amcanion
Erbyn i fyfyrwyr gwblhau?r modiwl disgwylir iddynt feddu dealltwriaeth sylfaenol o?r canlynol:

- y sefydliadau sy?n ffurfio?r wladwriaeth Brydeinig a lle Cymru oddi mewn iddynt;
- cyd-berthynas y sefydliadau hyn, ac yn arbennig y berthynas rhwng sefydliadau ar y lefel Gymreig a sefydliadau ar y lefel Brydeinig;

- y dadleuon ynglyn a effeithiolrwydd datganoli i Gymru, a phloysigrwydd cyd-destun newydd gwleidyddiaeth Cymru;

- natur y pleidiau gwleidyddol sy?n ymgiprys am rym oddi mewn i?r gyfundrefn wleidyddol Brydeinig.

Elfennau Anghymharus - IP10710

Rhestr Ddarllen
Llyfr
B Taylor a K Thomson. Scotland and Wales: Nations Again?. Gwasg Prifysgol Cymru 1999
J Davies. Hanes Cymru (pendodau olaf). Penguin : 1990
A Birch. British System of Government 10th ed.