Cod y Modiwl | GW30120 | ||
Teitl y Modiwl | DAMCANIAETHAU GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL HEDDIW | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Timothy Dunne | ||
Semester | Intended For Use In Future Years | ||
Next year offered | N/A | ||
Next semester offered | N/A | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 12 Awr 12 x 1 awr Nifer y Darlithiau (yn Saesneg) | |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 Awr 10 x 1 awr Seminarau (yn Gymraeg) | ||
Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr 1 x arholiad x 2 awr | 50% |
Traethawd | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Disgrifiad cyffredinol
Mae'n bwysig fod myfyrwyr gwleidyddiaeth ryngwladol yn deall nad allanolion mo damcaniaethau i ni; yn hytrach yr ydym yn byw ein bywydau o fewn i ddamcaniaethau. Ni allwn ddechrau meddwl yn ddeallus am y byd cymdeithasol heb ddirnadaeth o faterion llosg, a chysyniadau megis iawnderau dynol, masnach, chwyldroadau, cenedlaetholdeb, ffederaliaeth, rhywedd a hil-laddiad. I'r perwyl hwn, mae'r deunydd dan sylw yn DGRH yn gwneud tri pheth: yn gyntaf mae'n adeiladu ar sail modiwlau rhagarweiniol Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Rhan Un; yn ail, mae'n rhoi sylw i nifer o faterion damcaniaethol o godir mewn modiwlau eraill yn Rhan Dau; yn drydydd, mae'n ceisio rhoi cyfanrwydd cyffredinol i astudiaethau academaidd o wleidyddiaeth ryngwladol.
Nod
Mae modd i'r hyn sydd dan sylw mewn damcaniaethau gwleidyddiaeth ryngwladol - sef pwy sydd yn cael beth, pryd, ymhle a sut ar raddfa fyd-eang - gael ei ddehongli mewn nifer o ffyrdd cyferbyniol. Un o amcanion cyffredinol y cwrs yw helpu'r myfyrwyr i fynd i'r afael mewn modd beirniadol a'r patrymau croes hyn, ac a'r ffordd y mae syniadau yn rhoi ffurf i arferion gwleidyddiaeth fyd-eang. Mae hynny yn ein galluogi ni i ateb cwestiynau allweddol megis: Sut yr ydym yn dewis rhwng damcaniaethau croes? Sut mae gwerthuso cyfraniad damcaniaethau i'r hyn sydd yn digwydd? Pa mor ddefnyddiol yw damcaniaethau gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw?
Amcanion
10 credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
Mark V.Kauppi and Paul R Viotti (eds).
International Relations Theory 3rd edn.
Scott Burchill and Andrew Linklater.
Theories of International Politics.