Cod y Modiwl GW30320  
Teitl y Modiwl RHYFEL, GWLEIDYDDIAETH A STRATEGAETH  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr P Ewan  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Nicholas Wheeler, Tarak Barkawi  
Manylion y cyrsiau Darlith   16 Awr 16 x 1 awr Nifer Darlithiau (yn Saesneg)  
  Seminar   8 Awr 8 x 1 awr Seminarau yn Gymraeg  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr 1 x traethawd 1,500 o eiriau (heb ei asesu)   100%  

Cynnwys
Bu astudio'r cydberthynas rhwng rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth wrth wraidd dulliau traddodiadol o ymdrin a gwledyddiaeth ryngwladol. Testun cryn ddadlau fu'r pynciau dan sylw a'r dulliau a ddefnyddiwyd i'w hastudio.

Nod
Amcan y modiwl hwn yw cynnig sylfaen gyffredinol (cysyniadau, damcaniaethau, hanes) i ddeall ac esbonio materion amlycaf rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth yn y byd sydd ohoni.

Amcanion
Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru trafod amrediad o gysyniadau allweddol, esboniadau ar theori, a digwyddiadau a thueddiadau hanesyddol a chyfoes i'r graddau yr ymwnant a chwestiynau pwysig ynghylch rhyfel, heddwch, gwleidyddiaeth, diogelwch, pwer, grym milwrol a strategaeth. Deall y deunydd hwn - y theori a'r ffeithiau - yw'r sylfaen i astudio cwestiynau taer diogelwch rhyngwladol yn y byd heddiw

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
George a Lopez and Nancy J Myers (eds). Peace and Security: The Next Generation.
Seyom Brown. The Causes and Prevention of War (2nd Edition).