Cod y Modiwl GW30420  
Teitl y Modiwl CYSYNIADAU ALLWEDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro Andrew Linklater  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr Nifer y darlithiau: 18 x 1 awr  
    4 Awr Bord Gron: 4 cyfarfod x 1awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr 1 arholiad 3 awr   100%  

Nod
Prif amcan y modiwl hwn yw sicrhau bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth soffistigedig o'r cysyniadau allweddol sydd eu hangen i astudio Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar lefel anrhydedd. Byddai hyn yn cynnwys: cysyniadau allweddol yn y llenyddiaeth ar y genedl-wladwriaeth, astudiaethau diogelwch, economi wleidyddol ryngwladol ac ymchwilio hanesyddol. Bydd darlithiau a gwaith darllen yn canolbwyntio ar ystyr y prif gysyniadau yn y maes, eu lle yn y darlun ehangach, a sut i'w cymhwyso wrth ddadansoddi'n ddamcaniaethol ac yn ymarferol.

Amcanion
Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn:

Mae'r modiwl yn trafod yr holl brif feysydd pwnc/ymchwil yn yr Adran. Bydd pedair cyfres o ddarlithiau yn ystod y modiwl. Ar ddiwedd pob cyfres o ddarlithiau cynhelir `bord gron' dan gadeiryddiaeth Cydlynydd y Modiwl a bydd gofyn i fyfyrwyr godi cwestiynau ac ysgogi trafodaeth ar faterion penodol a drafodwyd yng nghwrs y darlithiau. Er mwyn llunio cwestiynau trefnir myfyrwyr yn grwpiau anffurfiol a fydd yn gweithio y tu allan i'r amserlen ffurfiol er mwyn trafod materion pellach yn sgil y darlithiau. Hefyd, ar ol pob `bord gron' bydd awr o drafod anffurfiol i annog trafodaeth a dadl yn ogystal ag i roi i fyfyrwyr y cyfle i ddod i adnabod staff (gan gynnwys staff dysgu rhan amser) o wahanol feysydd dysgu/ymchwil yn yr Adran.

10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
John Baylis and Steve Smith. The Globalisation of World Politics: An Introduction to International Relations.
Ian Clark. Globalisation and Fragmentation: International Relations in the Twentieth Century.