Cod y Modiwl GW33320  
Teitl y Modiwl CUDD-WYBODAETH A DIOGELWCH CENEDLAETHOL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Peter Jackson  
Semester Intended For Use In Future Years  
Next year offered N/A  
Next semester offered N/A  
Manylion y cyrsiau Darlith   10 Awr 10 x 1 awr Nifer y Darlithiau (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr 6 x 2 awr Seminarau yn Gymraeg  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr 1 x arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   1 x traethawd 2,000 o eiriau   30%  

Disgrifiad cryno
Mae cudd-wybodaeth wedi ei disgrifio fel y "dimensiwn coll" ym maes materion rhyngwladol. Ac eto yr oedd dechreuad y Rhyfel Oer a datblygiad arfau niwclear wedi rhoi cyd-destun ac esgus dros dwf sefydliadau cudd-wybodaeth modern. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae astudiaethau cudd-wybodaeth wedi ymddatblygu'n faes ysgolheigaidd o bwys, gan fwrw goleuni ar ddigwyddiadau a materion allweddol gwleidyddiaeth ryngwladol yr ugeinfed ganrif. Act eto mae sialensiau methodolegol sylweddol ynghlwm wrth astudio cudd-wybodaeth.

Nod
Amcan y cwrs yw ymchwilio i rol cudd-wybodaeth wrth lunio polisiau diogelwch cenedlaethol, a chloriannu i ba raddau y mae'r "byd cudd" wedi bod yn ganolog i'r "byd go iawn". Gwneir hynny drwy astudio digwyddiadau a materion allweddol ym maes cysylltiadau rhyngwladol lle'r oedd gan gudd-wybodaeth rol hanfodol o ran llunio polisiau diogelwch cenedlaethol (ac, yn rhai achosion, lle'r oedd cudd-wybodaeth wedi methu a chyflawni'r rol honno).

Amcanion
Erbyn diwedd y modiwl dylai fod y myfyrwyr yn gallu:

10 credydau ECTS