Cod y Modiwl GW39220  
Teitl y Modiwl Y TRYDYDD BYD MEWN GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Stephen Hobden  
Semester Intended For Use In Future Years  
Next year offered N/A  
Next semester offered N/A  
Manylion y cyrsiau Darlith   16 Awr Nifer y Darlithiau 16 x1 awr  
  Seminar   8 Awr Nifer y Seminarau 8 x 1 awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr 1 arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   1 traethawd 2,000 o eiriau   30%  

Nod
Mae?r modiwl hwn yn ymchwilio i?r newidiadau yn safle?r Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth fyd-eang ac o fewn astudiaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae?r modiwl yn cychwyn gan ystyried imperialaeth a greodd ffiniau cenedlaethol y Trydydd Byd a?i integreiddio i gyfundrefn gyfalafol y byd,. Cymerwn frasolwg hefyd ar yr amryw ddamcaniaethau a safbwyntiau ar astudio?r Trydydd Byd. Wedyn bydd y modiwl yn ymchwilio i rol ac ymwneud y Trydydd Byd mewn masnach ryngwladol, gan gynnwys y posibiliadau ar gyfer masnach rhwng y De a?r De ac integreiddio rhanbarthol.

Fel y bydd myfyrwyr yn gyfarwydd a rol a dylanwad y Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol mae?r modiwl hwn yn ymchwilio i rol y gwledydd hyn mewn amryw sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig. Mae?r modiwl hefyd yn ystyried materion sy?n ymwneud ag anymochredd [non-alignment] a threfn fyd-eang economaidd newydd.

Mae rhan olaf y modiwl yn trafod y Rhyfel Oer a?i ganlyniadau. Mae?n ymchwilio i?r modd yr ystyrid llawer o wledydd y Trydydd Byd fel gwerin i?w defnyddio mewn gem gwyddbwyll ideolegol gymhleth rhwng yr uwch-bŵerau. Mae?n trafod sut a pham y bu?r Gorllewin yn ystod y cyfnod hwn yn atgyfnerthu grym unbenaethiaid bwystfilaidd yn y Trydydd Byd yn enw gwrth-gomiwnyddiaeth, rhyddid a democratiaeth. Yn olaf mae?n canolbwyntio ar ganlyniadau a diwedd y Rhyfel Oer i?r Trydydd Byd.

Amcanion
Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn medru:

disgrifio prif ddamcaniaethau Datblygiad y Trydydd Byd
asesu?r effaith ar wledydd y Trydydd Byd o gynnwys eu heconom?au yn yr economi fyd-eang
dadansoddi rol sefydliadau byd-eang ar ddatblygiad y Trydydd Byd
asesu safle?r Trydydd Byd yng ngwleidyddiaeth y byd yn ystod y Rhyfel Oer ac wedyn.

10 credydau ECTS