Cod y Modiwl | HA10320 | ||
Teitl y Modiwl | CENEDLIGRWYDD+CHENEDLAETHOLDEB-NGHANOLBARTH EWROP-1800-1999 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Gareth Popkins | ||
Semester | Intended For Use In Future Years | ||
Next year offered | N/A | ||
Next semester offered | N/A | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 18 Awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 Awr | ||
Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr | 60% |
Traethawd | 2 traethawd x 2,500 o eiriau | 40% |
Disgrifiad cryno
Hen genedl gyfoethog ei diwylliant a'i thraddodiadau yng nghanolbarth Ewrop yr'r Hwngariaid, un a brofodd ail-enedigaeth tu fewn i Ymerodraeth y Habsburgiaid. Wedi cyfnod o annibyniaeth daeth llywodraethau ffasgaidd, comiwnyddol, a'r ail-werthuso yn sgil "chwyldro" 1989. Maes profiadau'r Hwngariaid yn ddrych felly i hanes yr Ewrop fodern ac yn ddrws i agweddau ar bwnc canolog mewn hanes. A damcaniaethau am genedlaetholdeb yn ganllaw, gofynnir i ba raddau y creir ymwybyddiaeth genedlaethol yn fwriadol, am bwysigrwydd iaith, daearyddiaeth, a'r gyfundrefn gymdeithasol. Canolbwyntir y darlithoedd ar dri genedl, myfyrdod ar y gyd-berthynas rhwng yr economi a gwleidyddiaeth cenedlaetholdeb, a wedyn trafodaeth am ddigwyddiadau tygedfennol a osododd gywair ar hanes y wlad megis gwrthryfeloedd 1848 ac 1956.