Cod y Modiwl HA39030  
Teitl y Modiwl GWLADWRIAETH A CHYMDEITHAS YN RWSIA 1856-1917  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Gareth Popkins  
Semester Intended For Use In Future Years  
Next year offered N/A  
Next semester offered N/A  
Elfennau Anghymharus HY38030  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Arholiad   2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau)   40%  

Disgrifiad cryno
Ceir archwiliad manwl ar hynt a helynt hanes Rwsia yn y cyfnod allweddol rhwng ad-drefniant mawr Alecsandr II hyd at Chwyldro 1917 yn y cwrs hwn. Bellach mae haneswyr yn cefnu ar yr hen ddehongliadau oedd yn ystyried y cyfnod yn bennaf fel paratoad am chwyldro rhagarfaethedig. Nid yr arbenigwyr yn unig sy'n ail-feddwl, yn y Rwsia newydd mae chwilfrydedd mawr am y gymdeithas ddiflanedig. Mae hen draddodiadau (a phroblemau) yn dychwelyd, gan roi ysgogiad ymarferol i fyfyrio ar y cyfnod. I'r sawl a ymddiddora ym mhrofiadau cyfoesol "datblygu" tu allan i Ewrop mae enghraifft Rwsia, y wladwriaeth gyntaf i geisio dal y Gorllewin, o bwys hyd heddiw.

Rhoddir sylw llawn i newidiadau enfawr cymdeithas fyrlymus y Rwsia cyn-chwyldroado a'r berthynas ryngddynt a'r llywodraeth. Ceir darlithoedd ar fudiad y gweithwyr, dadleuon y deallusion am ddyfodol Rwsia, datblygiadau ym myd addysg, blodeuo godidog yn nywilliant y wlad a hanes y cenhedloedd "bychain", yn ogystal a thriniaeth o hanfod "adwaith" Alecsandr III neu'r frenhiniaeth gyfansoddiadol o 1905 ymlaen.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
Brown, Archie et al.. (1994) The Cambridge Encyclopedia of Russia and the Soviet Union. Cambridge
Hans Rogger. (1983) Russia in the Age of Modernization and Revolution 1881-1917. London