Cod y Modiwl HC10220  
Teitl y Modiwl POBL A PHROTEST YNG NGHYMRU FODERN  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro Aled Jones  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Paul O'Leary  
Cyd-Ofynion HC10120 Rhaid i fyfyrwyr Anrhydedd Cyfun Hanes Cymru gymryd HC10120 hefyd  
Elfennau Anghymharus WH10220  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Traethawd   Marc asesiad wedi ei seilio ar ddau draethawd x 2,500 o eiriau   40%  

Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn ystyried prif symudiadau cymdeithasol y Gymru fodern, ac yn eu lleoli yng nghyd-destun hanes y gymdeithas Gymreig. Gan gychwyn gyda arferion a dulliau protest y Cymry gweldig a chyn-ddiwydiannol, byddwn yn dwyn sylw hefyd at dwf a methiant y mudiad Siartaidd, cyfraith a thor-cyfraith, anghydffurfiaeth radicalaidd a Rhyddfrydiaeth. Yn benodol, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar sawl mudiad diwygio gwleidyddol a moesol, undebaeth lafur a sosialaeth. Bydd y conspectws eang hwn yn galluogi myfyrwyr i amgyffred rhai o brif themau'r gymdeithas Gymreig fodern, gan gynnwys twf ideolegau gwleidyddol a hunaniaeth genedlaethol. Yn hynny o beth, bydd y cwrs yn gosod sylfaen gref ar gyfer modiwlau Hanes Cymru yn Rhan Dau.