Cod y Modiwl HC31230  
Teitl y Modiwl CYMRU ERS 1945  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro Aled Jones  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus WH31230 , CF31220  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Traethawd   2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau)   40%  

Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn disgrifio ac yn ceisio esbonio rhai o brif ddigwyddiadau'r hanner canrif diwethaf yn hanes Cymru. Trwy ddwyn sylw at ddatblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol yn y Gymru gyfoes, byddwn yn ystyried ymatebion y Cymry fel pobl i'r newidiadau pell-gyrhaeddol hynny. Byddwn hefyd yn ystyried y dylanwad gafodd sefydliadau gwleidyddol a diwylliannol Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd ar dwf ein hunaniaeth genedlaethol. Yn olaf, bydd y modiwl yn rhoi cysyniadau fel 'cynrychiolaeth wleidyddol' ac 'arweinyddiaeth gymdeithasol' yng nghyd-destun yr ysgrifau diweddaraf ar hanes a chymdeithaseg y Gymru fodern.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
John Davies. (1993) A history of Wales / Hanes Cymru.
K.O.Morgan. (1981) Rebirth of a Nation. Wales 1880-1980.