Cod y Modiwl HC33130  
Teitl y Modiwl CYMRU A'R TUDURIAID 1530-1603  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Eryn White  
Semester Intended For Use In Future Years  
Next year offered N/A  
Next semester offered N/A  
Elfennau Anghymharus WH33130  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Traethawd   2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau)   40%  

Disgrifiad cryno
Bwriad y cwrs yw archwilio effeithiau rhai o ddatblygiadau arwyddocaol y cyfnod hwn ar Gymru. Astudir rhai pynciau yn fanwl, gan gynnwys cwestiwn dadleuol yr 'uno' rhwng Cymru a Lloegr, ynghyd a natur ac arwyddocad y berthynas rhwng llinach y Tuduriaid a phobl Cymru. Archwilir yn ogystal natur dylanwad y Dadeni Dysg ar Gymru a'r effeithiau ar yr iaith Gymraeg yn fwyaf arbennig. Rhoddir sylw hefyd i dderbyniad y grefydd Brotestannaidd yn y wlad a cheisir asesu'r graddau y llwyddodd y ffydd newydd ac estron hon i ddadorseddu grym dylanwad ofergoeliaeth a dewiniaeth ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol.

Canlyniadau dysgu
Ar gwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr fod yn gyfarwydd a'r prif ddadleuon hanesyddol yn ymwneud a chyfnod allweddol yn hanes Cymru yn nhermau'r berthynas a Lloegr a statws yr iaith Gymraeg. Dylent yn ogystal fod a gwell ddealltwriaeth o effaith datblygiadau cyfoes yn Ewrop ar Gymru.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
G.H. Jenkins. (1983) Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760. Caerdydd
Glanmor Williams. (1993) Renewal and Reformation: Wales c.1415-1642. Rhydychen