Cod y Modiwl | HC33230 | ||
Teitl y Modiwl | CYMDEITHAS A DIWYLLIANT CYMRU 1660-1800 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Eryn White | ||
Semester | Semester 2 | ||
Elfennau Anghymharus | WH33230 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 18 Awr | |
Seminar | 10 Awr | ||
Dulliau Asesu | Arholiad | 3 Awr | 60% |
Traethawd | 2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau) | 40% |
Disgrifiad o'r modiwl
Awgrymid mai dyma'r cyfnod pan osodwyd y sylfeini ar gyfer y Gymru fodern. Amcan y modiwl hwn yw astudio'r newidiadau a'r datblygiadau a gyfrannodd at y broses hon. Profodd y ddeunawfed ganrif gyfres o ddiwygiadau mewn addysg, crefydd, diwylliant a hunaniaeth genedlaethol, ynghyd a thwf yr haenau canol a dechreuadau radicaliaeth wleidyddol. Ceisir hefyd asesu dylanwad rhai unigolion blaenllaw wrth lunio hunaniaeth y Cymry. Y mae gwahanol haneswyr wedi cyfeirio at Griffith Jones, Howel Harris a Iolo Morganwg fel 'Cymro mwyaf ei oes'. Ond pa un ohonynt mewn gwirionedd a gafodd yr effaith mwyaf dwfn a pharhaol ar gymdeithas a diwylliant Cymru?
Canlyniadau dysgu
Ar gwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr fedru dangos dealltwriaeth o natur a strwythur y gymdeithas yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd a dylanwad twf llythrennedd, y Diwygiad Methodistaidd ac adfywiad diwylliannol y ddeunawfed ganrif a sut yr effeithiodd y datblygiadau hyn ar iaith a hunaniaeth y Cymry.
Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
G.H. Jenkins. (1983)
Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar.
Prys Morgan. (1981)
The Eighteenth Century Renaissance.