Cod y Modiwl AD10210  
Teitl y Modiwl ATHRONIAETH ADDYSG  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Iolo Lewis  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   Aseiniad: 2,000 o eiriau   40%  
  Arholiad   2 Awr Arholiad   60%  

Disgrifiad cryno


Arweiniad i ddadansoddiad athronyddol o rai o'r prif gysyniadau yn theori addysg, e.e. dadansoddi cysyniadau mewn athroniaeth gyfoes, ystyried sylfeini athronyddol y cwricwlwm, trafod agweddau ar y berthynas rhwng athro a disgybl, ymdrin ag awdurdod a disgyblaeth mewn sefydliadau addysgol.

Nod y modiwl

Maes llafur


   
I. Arweiniad i Ddadansoddi Athronyddol


1. Beth yw cysyniad (concept)?


2. Sut mae athronwyr yn dadansoddi cysyniadau?


3. Beth yw diben dadansoddi cysyniadau?


4. Pa ganghenau o Athroniaeth y mae'n rhaid i addysgwr eu defnyddio wrth drafod addysg?


II. Y Cysyniad o Addysg


1. Pa fath o ddiffiniad y gellir ei roi o'r cysyniad o Addysg?

2. Pa broblemau a gyfyd wrth geisio diffinio Addysg?


3. Beth yw amcanion a chyrchnodau (objectives) Addysg?


4. Beth yw ystyr yr ymadrodd anghenion addysgol?


5. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng anghenion addysgol a diddordebau?


III. Datblygiad


1. Ystyr yr ymadrodd datblygiad y meddwl.


2. Y ddolen gyswllt rhwng datblygiad gwybyddol a datblygiad teimladol yr unigolyn.


3. Y cysylltiad rhwng datblygiad teimladol a datblygiad cymdeithasol.


4. Cyfraniad y teimladau i ddatblygiad y deall.


5. Y ddolen gyswllt rhwng y deall a datblygiad cymdeithasol.


6. Y cysylltiad rhwng datblygiad moesol a datblygiad y teimladau a'r deall.


7. Y cysyniad o berson.


8. Datblygu fel person a'r cysyniad o iechyd meddwl.


IV. Y Cwricwlwm


1. Gwybodaeth a dealltwriaeth fel cyrchnodau sylfaenol y cwricwlwm.


2. Ffurfiau Cyhoeddus Gwrthrychol Gwybodaeth a Phrofiad.


3. Egwyddorion trefnu cwricwlwm.


V. Sefydliadau Addysgol


1. Diffinio sefydliadau addysgol.


2. Amcanion sefydliadau Addysgol.


3. Ffactorau sy'n dylanwadu ar sefydliadau addysgol.


4. Natur awdurdod mewn sefydliadau addysgol.


5. Cyfiawnhau awdurdod mewn sefydliadau addysgol.


6. Gwahanol ystyron disgyblaeth mewn sefydliadau addysgol.


7. Cosb mewn sefydliadau addysgol

Canlyniadau dysgu


I. Arweiniad i Ddadansoddi Athronyddol.


   Wedi astudio'r adran hon:
   
1. Byddwch yn medru egluro beth a wneir wrth ddadansoddi cysyniadau a byddwch yn medru dadansoddi rhai cysyniadau ym maes addysg.


2. Byddwch yn medru dangos ar lafar ac yn ysgrifenedig bod dadansoddi cysyniadau yn anhepgor i gyfiawnhau syniadau a pholisiau ym maes addysg.


3. Byddwch yn medru dadansoddi problemau ym maes addysg i'w gwahanol elfennau boed athronyddol, cymdeithasegol, seicolegol, moesol neu hanesyddol.


4. Byddwch yn medru defnyddio'r un technegau o ddadansoddi ar broblemau mewn meysydd heblaw addysg.


II Y Cysyniad o Addysg


Wedi astudio'r adran hon:


1. Byddwch yn medru cynnig diffiniad o'r cysyniad o addysg a byddwch yn medru egluro rhai o'r problemau a gyfyd wrth geisio diffinio addysg.


2. Byddwch yn medru egluro a rhoi enghreifftiau o'r modd y mae athronwyr yn beirniadu unrhyw ddiffiniad a gynigir.


3. Byddwch yn medru rhoi enghreifftiau o amcanion a chyrchnodau ac yn medru egluro y berthynas rhyngddynt. Byddwch hefyd yn medru egluro sut i'w cyfiawnhau.

4. Byddwch yn medru dadansoddi'r cysyniad o angen i'w wahanol elfennau ac egluro pa elfennau sy'n berthnasol i addysg.


5. Byddwch yn medru dangos y gwahaniaeth rhwng anghenion a diddordebau ac yn medru egluro sut i ddefnyddio diddordebau disgyblion i ddibenion addysgol.


III. Datblygiad


Wedi astudio'r adran hon:


1. Byddwch yn medru egluro beth yw datblygiad y meddwl a'i gyferbynu a datblygiad corfforol.


2. Byddwch yn medru dangos yn glir fod datblygiad gwybyddol (h.y. datblygiad y deall) yn hollol hanfodol i ddatblygiad teimladol, cymdeithasol a moesol yr unigolyn. Byddwch hefyd yn medru dangos y dylai'r dadansoddiad hwn fod yn rhan hanfodol o faes llafur Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion.


3. Byddwch yn medru trin a thrafod y cysyniad o berson dynol ynghyd a'r syniad o ardderchowgrwydd dynol (human excellences).


4. Byddwch yn medru egluro'r berthynas rhwng y syniad o ddatblygu fel person a'r cysyniad o iechyd meddwl.


5. Byddwch yn medru defnyddio'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gawsoch yn yr adran hon i ddeall y modd y mae'r pynciau a astudir gennych yn y coleg yn cyfrannu i'ch datblygiad personol. Byddwch hefyd yn medru eu defnyddio i ymgodymu a bywyd beunyddiol myfyriwr/myfyrwraig.


IV. Y Cwricwlwm


Wedi astudio'r adran hon:


1. Byddwch yn medru egluro'r dadleuon dros gredu mai gwybodaeth a dealltwriaeth yw cyrchnodau sylfaenol y cwricwlwm.


2. Byddwch yn medru rhoi disgrifiad o safbwynt Paul Hirst ynglyn a Ffurfiau Cyhoeddus Gwrthrychol Gwybodaeth a Phrofiad ynghyd a rhai gwendidau yn ei safbwynt.


3. Byddwch yn medru trin a thrafod rhai o egwyddorion trefnu cwricwlwm.


V. Sefydliadau Addysgol


Wedi astudio'r adran hon:


1. Byddwch yn medru diffinio sefydliadau ac egluro'r berthynas rhwng sefydliadau a'u hamcanion.


2. Byddwch yn medru trin a thrafod gwahanol ystyron y gair awdurdod ac yn medru egluro y cyfiawnhad a roir dros y gwahanol fathau.


3. Byddwch yn medru dadansoddi y cysyniadau canlynol - disgyblaeth feddyliol; pwnc fel disgyblaeth; ymddisgyblu meddyliol; ymddisgyblu moesol.


4. Byddwch yn medru gwahaniaethu rhwng disgyblaeth a chosb ac egluro'r dadleuon a ddefnyddir i gyfiawnhau cosb.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
BARROW, Robin and WOODS, Ronald. (1988) An Introduction to Philosophy of Education. 3rd Ed.. Routledge
HIRST, P H and PETERS, R S. (1970) The Logic of Education. Routledge and Kegan Paul