Cod y Modiwl AD10310  
Teitl y Modiwl SEICOLEG ADDYSG  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Iolo Lewis  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   Aseiniad: 2,000 o eiriau   40%  
  Arholiad   2 Awr Arholiad   60%  

Disgrifiad cryno


Diben y cwrs hwn yw ystyried rhai o'r atebion a gynigir gan sawl theori seicoleg dysgu i'r cwestiwn "Sut mae plant yn dysgu?" Rhoddir sylw i agweddau seciolegol ar ddysgu: ymddygiadaeth, datblygiad gwyboddol, a theori prosesu gwybodaeth.

Nod y modiwl

Maes llafur


   
I. Cymhelliant Dynol


1. Natur a nodweddion cymhelliant dynol.


2. Damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn â Graddfa neu Hierarchi o Anghenion Dynol.


3. Agweddau o Theori Atgyfnerthu a'i defnydd mewn addysg.


4. Y Cymhelliant i gyflawni: arbrofion a wnaethpwyd a'r defnydd o'r canlyniadau mewn ysgol a choleg.


5. Theori Priodoli (Attribution Theory).


II. Dysgu a Chofio


1. Y Model Prosesu - Gwybodaeth o'r cof.
(The information - processing model of memory).


2. Damcaniaethau ynglyn ag anghofio ac arbrofion ar anghofio.


3. Arbrofion ar ddulliau o ddysgu (learning) a'r technegau sy'n gwneud dysgu'n fwy effeithiol.

Canlyniadau dysgu



I. Cymhelliant Dynol


Ar ol astudio'r adran hon:


1. Byddwch yn medru egluro damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn ag anghenion dynion a'i defnyddio i'ch diben eich hun fel myfyrwyr ynghyd â gweld ei gwerth i athrawon ysgol a choleg.


2. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theory Atgyfnerthu ac yn medru egluro sut y dylid ei defnyddio i wneud hyfforddiant mewn ysgol a choleg yn fwy effeithiol.


3. Byddwch yn medru egluro'r theori ynglyn â'r Angen i Gyflawni (need to Achieve) ac yn medru defnyddio agweddau ohoni i fod yn fwy effeithiol fel myfyrwyr.


4. Byddwch yn medru deall a defnyddio Theori Priodoli a'i defnyddio i egluro eich ymateb i lwyddiant
neu fethiant mewn rhyw orchwyl arbennig ac i feithrin dyfalbarhad ac agwedd gadarnhaol tuag at anawsterau.


II Dysgu a Chofio:


Wedi astudio'r adran hon


1. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theori Prosesu - Gwybodaeth o'r cof a'i defnyddio i fod yn fwy
effeithiol fel myfyrwyr.


2. Byddwch yn medru egluro gwahanol ddamcaniaethau ynglyn ag anghofio, disgrifio arbrofion ar anghofio ynghyd â'i canlyniadau a defnyddio'r wybodaeth i'ch budd eich hunain fel myfyrwyr.


3. Byddwch yn medru crynhoi canlyniadau arbrofion ar gaffael gwybodaeth a'i storio yn yr hir-gof a byddwch yn medru llunio cynghorion ar sail eich gwybodaeth i wneud myfyrwyr yn fwy effeithiol yn eu gwaith.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
CHILD, Dennis. (1986) Psychology and the Teacher. 4th Ed.. Cassell
FONTANA, David. (1988) Psychology for Teachers. 2nd Ed.. Macmillan