| Cod y Modiwl | AD10410 | ||
| Teitl y Modiwl | DWYIEITHRWYDD-Y PERSBECTIF CYMRAEG A RHYNGWLADOL | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Meirion Davies | ||
| Semester | Semester 2 | ||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr | |
| Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr | ||
| Dulliau Asesu | Traethodau | Aseiniad: 2,000 o eiriau | 40% |
| Arholiad | 2 Awr Arholiad | 60% | |
Arolwg o addysg ddwyieithog mewn perthynas â Chymru a gwledydd/cymunedau dwyieithog eraill. Ystyrir y ffactorau sy'n dylanwadu ar iaith a diwylliant, a'r polisiau a'r dulliau a ddefnyddir i hybu dwyieithrwydd.
Datblygu ymwybyddiaeth o rol hollbwysig addysg ar gyfer cynnal iaith a chymdeithas. Cael y myfyrwyr i olrain datblygiad addysg yng Nghymru dros y canrifoedd, a'u cael i ystyried profiadau gwledydd Celtaidd a lleiafrifol eraill.
Erbyn diwedd y cwrs gobeithir y gall y myfyrwyr bwyso a mesur y gwahanol ffactorau sy'n gyfrifol am gynnal a gwarchod iaith, yn ogystal â'r ffactorau sy'n bygwth dyfodol iaith, cyfundrefn addysg, a chenedl.