Cod y Modiwl CF33320  
Teitl y Modiwl TROSEDD, TERFYSG A MOESOLDEB 1750-1850  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Eryn White  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus HC 33330  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr To be timetabled with HC 33330  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   60%  
  Asesiad Semester   2 x 2,500 word essays   40%  

Disgrifiad cryno


Y mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng y Diwygiad Methodistaidd a Brad y Llyfrau Gleision. Awgrymwyd bod y cyntaf yn amcanu at greu 'cenedl o bobl ddiflas', ac yn sgil yr ail ceisiwyd creu'r ddelwedd o Gymru fel 'gwlad y menyg gwynion', heb dor-cyfraith yn amharu arni. Awgryma'r cyhuddiadau yn y Llyfrau Gleision ynglyn ag anfoesoldeb yn y Gymru Anghydfurffiol na lwyddodd y Methodistiaid yn eu nod. Bwriad y modiwl yw archwilio dylanwad Anghydffurfiaeth ar syniadau am foesoldeb, agweddau'r boblogaeth yn gyffredinol at drosedd a chamymddwyn, a'r rhesymau dros derfysgoedd hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn cydgerdded a Chymru sobor a difrifol yr Anghydfurffwyr, felly, yr oedd Cymru a oedd weithiau'n afreolus a llawn rialtwch, ac a oedd mewn rhai achosion yn troi llygad dall i drosedd a chamymddwyn

Canlyniadau dysgu


Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
a. Adolygu'n feirniadol y corff o wybodaeth hanesyddol sy'n ymwneud ^a throsedd a therfysg;
b. Amgyffred y problemau hanesyddol sy'n ymwneud ag astudiaethau ar drosedd a therfysg;
c. Amgyffred y gwahanol ddadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw;
ch. Darllen, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth wreiddiol;
d. Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol;
dd. Darganfod a defnyddio ffynonellau hanesyddol;
e. Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ac eraill, ac i gymryd rhan mewn trafodaeth o fewn gr^wp.