Cod y Modiwl | CY10210 | ||
Teitl y Modiwl | LLENYDDIAETH YR UGEINFED GANRIF (IAITH GYNTAF) | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Mihangel Morgan | ||
Semester | Semester 2 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Huw Edwards | ||
Rhagofynion | Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch ( fel arfer, ond nid o raid) | ||
Cyd-Ofynion | I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10110, CY10310, CY10410 | ||
Elfennau Anghymharus | CY10510, CY10610,CY10710, CY10810, CY12220 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 22 Awr | |
Dulliau Asesu | Traethodau | 2,000 o eiriau | 30% |
Arholiad | 2 Awr | 70% |
1. Byddwch yn gyfarwydd, yn gyffredinol, â cherddi pwysicaf barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif ac â gwaith beirdd diweddar ar ddiwedd y cwrs.
2. Byddwch wedi astudio gwaith ffigurau mwyaf dylanwadol barddoniaeth y ganrif, e.e. T. H Parry-Williams, Saunders Lewis, Waldo Williams. Ond byddwch wedi trafod ambell gerdd gan feirdd llai adnabyddus sydd yn adlewyrchu digwyddiadau hanesyddol y cyfnod.
3. Byddwch yn gyfarwydd â mudiadau llenyddol y ganrif, e.e. Rhamantiaeth, Moderniaeth, Dadeni'r Gynghanedd, Ffeministiaeth.
4. Byddwch wedi astudio detholiad o gerddi yn fanwl ac ar ddiwedd y cwrs byddwch yn gallu trafod testunau penodol ac/neu agweddau cyffredinol ar farddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif a dechrau'r ganrif hon.