Cod y Modiwl CY10310  
Teitl y Modiwl CYMRAEG DDOE A HEDDIW 1 (IAITH GYNTAF)  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Marged Haycock  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Marged Haycock  
Cyd-Ofynion I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10110,CY10210, CY10410; i'r rhai na fyn hynny: CY10110 neu CY10210 neu CY10410  
Elfennau Anghymharus CY10510, CY10610,CY10710, CY10810, CY12220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
  Seminarau   6 Awr  
Dulliau Asesu Aseiniad   Traethawd neu Ymarferion   30%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Disgrifiad cryno


Cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a theithi'r iaith Gymraeg. Trafodir nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, enwau lleoedd, enwau priod a nifer o bynciau eraill.

Canlyniadau dysgu


1. Byddwch yn gyfarwydd â hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol, a   chymdeithaseg iaith.


2. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o'r famiaith Geltaidd, ac am ei pherthynas â'r ieithoedd Celtaidd eraill, ac â'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill.


3. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o'r bumed/chweched ganrif hyd heddiw.
   
4. Byddwch wedi ennill profiad o weithio'n annibynnol ar brosiect gwreiddiol ym maes tafodieitheg, ac o gywain gwybodaeth oddi ar lafar gwlad a'i dadansoddi.


5. Byddwch wedi ymgynefino â hanfodion astudio enwau lleoedd, ac fe fyddwch yn gyfarwydd â nifer o'r elfennau mwyaf cyffredin a geir yn enwau lleoedd Cymru.


6. Byddwch yn gyfarwydd â'r prif broblemau sy'n bygwth bodolaeth yr iaith Gymraeg, ac yn gallu trafod yr ymateb i'r problemau hynny.