Cod y Modiwl CY10510  
Teitl y Modiwl BRASLUN O HANES LLENYDDIAETH GYMRAEG (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Bleddyn Huws  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro John Rowlands  
Rhagofynion Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10610, CY10710, CY10810, CY12220, i'r rhai na fyn hynny CY10610  
Elfennau Anghymharus CY10110,CY10210,CY10310, CY10310  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   Un Traethawd 1,000 o eiriau ac Ymarferion   10%  
  Arholiad   2 Awr   90%  

Disgrifiad cryno


   Arolwg beirniadol o brif fannau hanes llenyddiaeth Gymraeg:
   cyflwyniad i'r Hengerdd, y Gogynfeirdd, Beirdd yr Uchelwyr,
   Llenyddiaeth y Dadeni, yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif a
   Llên Oes Victoria.

Canlyniadau dysgu


1. Dylai myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn fod yn gyfarwydd â rhai o brif fannau llenyddiaeth Gymraeg o'r chweched ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


2. Byddant yn gyfarwydd â rhai cysyniadau beirniadol wrth ymdrin â llenyddiaeth hanesyddol.


3. Byddant yn ymwybodol o rai o'r syniadau a'r symudiadau Ewropeaidd a ddylanwadodd ar lenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd.


4. Gallant osod rhai darnau o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.