Cod y Modiwl CY10610  
Teitl y Modiwl LLENYDDIAETH YR UGEINFED GANRIF (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Mihangel Morgan  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Cymraeg (Ail iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10510, CY10710, CY10810, CY12220; i'r rhai na fyn hynny: CY10510  
Elfennau Anghymharus CY10110 , CY10210 , CY10310 , CY10410  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   1,000 o eiriau   10%  
  Arholiad   2 Awr   90%  

Disgrifiad cryno


Cyflwyniad i ryddiaith a barddoniaeth yr ugeinfed ganrif, gyda rhai gwersi ar feirniadaeth. Darllenir nofelau a storiau a cherddi yn cynrychioli cynnyrch llenorion Cymraeg y cyfnod diweddar.

Canlyniadau dysgu


1. Byddwch chi wedi darllen detholiad o gerddi Cymraeg yr ugeinfed ganrif.


2. Byddwch wedi astudio un gerdd ar ddeg yn fanwl iawn fel y byddwch yn gyfarwydd â phob un ohonynt. Bydd pob un o'r cerddi hyn gan fardd gwahanol a phob un yn wahanol o ran ei harddull.


3. Byddwch yn gyfarwydd â thermau technegol barddoniaeth Gymraeg ac ar ddiwedd y cwrs byddwch yn gallu adnabod englyn unodl union, cynghanedd sain, draws, lusg a chroes, proest a'r wers rydd.


4. Byddwch yn gallu trafod y cerddi a astudir ac ysgrifennu traethodau byrion arnynt yn Gymraeg.