Cod y Modiwl CY10710  
Teitl y Modiwl SEMINARAU IAITH 1 (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Felicity Roberts, Mr Mihangel Morgan  
Rhagofynion Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion CY10510 , CY10610 , CY10810 i'r rhai na fyn hynny: CY10810  
Elfennau Anghymharus CY10110 , CY10210 , CY10310 , CY10410  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   18 Awr  
Dulliau Asesu Asesiad parhaus     20%  
  Arholiad   2 Awr   80%  

Disgrifiad cryno


Ymarferion ar gywirdeb iaith a thrafodaethau arni.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn deall sut mae defnyddio system ferfol y Gymraeg, gweithredol a goddefol.


2. Byddwch yn deall sut y mae llunio cymalau perthynol yn gywir.


3. Byddwch yn deall sut y mae llunio cymalau enwol yn gywir.


4. Byddwch yn deall sut y mae llunio cymalau amodol yn gywir.


5. Byddwch yn deall sut y mae pwyslais yn gweithio yn y Gymraeg.


6. Byddwch yn gallu ysgrifennu'n weddol hyderus yn y cywair llenyddol.