Cod y Modiwl CY12220  
Teitl y Modiwl CYMRU: IAITH A DIWYLLIANT (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Felicity Roberts, Dr Huw Edwards  
Rhagofynion Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion CY10510 I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10510, CY10610, CY10710, CY10810  
Elfennau Anghymharus CY10110 , CY10210 , CY10310 , CY10410  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   Traethawd 2,000 o eiriau    
  Arholiad   2 Awr    

Disgrifiad cryno


Bydd y modiwl hwn yn gwella safon Cymraeg myfyrwyr ail iaith trwy ganolbwyntio ar batrymau iaith bob dydd a'u hymarfer ac, ar yr un pryd, yn darparu gwybodaeth gefndirol iddynt am lenyddiaeth Gymraeg ac am sefydliadau sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a'i diwylliant. Edrychir ar bynciau megis y diwydiant llyfrau, y cyfryngau a'r celfyddydau yng Nghymru, ar sefydliadau megis yr Eisteddford a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac ar lenyddiaeth gyfoes (gan gynnwys llenyddiaeth boblogaidd).

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth eang o wahanol agweddau ar ddiwylliant yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif   a'r unfed ganrif ar hugain.   


2. Byddwch yn gallu trafod ar lafar ac yn ysgrifenedig nifer o wahanol bynciau sy'n berthnasol i Gymru gyfoes.


3. Byddwch yn gwybod sut mae gwneud ymchwil bersonol ar bwnc sy'n ymwneud â Chymru gyfoes.