| Cod y Modiwl | CY31320 | ||
| Teitl y Modiwl | MERCHED A LLENYDDIAETH HYD C1500 | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Marged Haycock | ||
| Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||
| Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
| Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
| Rhagofynion | Cymraeg Lefel 1 ( cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith., CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 | ||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 11 Awr | |
| Seminarau | 11 Awr | ||
| Dulliau Asesu | Traethodau | 3,000 o eiriau | 25% |
| Arholiad | 2 Awr | 75% | |
1. Byddwch yn gyfarwydd a'r prif ddulliau llenyddol o bortreadu merched a ddefnyddid gan awduron Cymraeg yr Oesoedd Canol; byddwch yn medru gosod y dulliau hyn yn eu cyd-destun diwylliannol a'u cysylltu a'r cefndir Ewropeaidd ehangach.
2. Byddwch â gwybodaeth sylfaenol am statws a swyddogaethau'r ferch yng Nghymru'r Oesoedd Canol, ac yn gwybod am natur a gwerth (a chyfyngiadau) y prif ffynonellau a ddefnyddir wrth archwilio'r maes.
3. Byddwch wedi astudio detholiad o destunau allweddol (rhyddiaith a barddoniaeth) naill ai yn y gwreiddiol neu mewn cyfieithiad, a dysgu sut i'w darllen yn feirniadol (e.e. er mwyn dinoethi rhagfarn neu agenda'r awduron).
4. Byddwch wedi cynefino â rhai o'r prif ddulliau dadansoddol a ddefnyddir gan feirniaid diweddar yn y maes.
5. Byddwch wedi ennill profiad o gyflwyno eich dadleuon gerbron y dosbarth.