Cod y Modiwl CY31420  
Teitl y Modiwl RHYDDIAITH A DRAMA 1900-2000  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Yr Athro John Rowlands  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gyda o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Yn maes rhyddiaith canolbwyntir yn bennaf ar y nofel, gan astudio gweithiau allweddol gan awduron megis Saunders Lewis, Tegla, Kate Roberts, T Rowland Hughes ac Iswlyn Ffowc Elis. Gwyntyllir pynciau megis y nofel ddiwydiannol a'r nofel ol-fodernaidd. Bydd yr astudiaeth o'r ddrama yn rhoi lle blaenllaw i Saunders Lewis a John Gwilym Jones, ond trafodir yn ogystal weithiau mwy blaengar ac arbrofol y chwarter canrif diwethaf.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn gallu amlinellu twf y nofel a'r ddrama Gymraeg yn ystod yr
ugeinfed ganrif.


2. Byddwch yn gallu gosod y ffurfiau hyn yn eu cyd-destun syniadol,
hanesyddol a chymdeithasol.


3. Byddwch yn gallu dadansoddi enghreifftiau unigol o'r genres hyn gydag
arfau miniocaf y beirniad llenyddol cyfoes.