Cod y Modiwl CY31520  
Teitl y Modiwl CERDDI'R GOGYNFEIRDD C.1100-1370  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Marged Haycock  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwn y 4 modiwl) gyda o leiaf 50% yn modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEY CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Cyd-Ofynion CY332020 NEU CY33120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau   11 Awr dosbarth testunol  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Astudiaeth o gerddi'r Gogynfeirdd: bydd y pwyslais ar fawl a marwnad y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg. Edrychir hefyd ar y canu crefyddol a'r canu i ferched.

Canlyniadau dysgu


1. Byddwch yn gyfarwydd â'r prif fathau o gerddi a gyfansoddwyd gan y Gogynfeirdd, ac â'r beirdd pwysicaf.


2. Bydd gennych wybodaeth sylfaenol am gefndir hanesyddol a diwylliannol y cerddi, yn enwedig am fywyd y llys yn y ddeuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg.


3. Bydd gennych ddealltwriaeth o natur a phwrpas gwleidyddol y canu mawl seciwlar, ac o amcanion canu crefyddol y cyfnod, ac fe fyddwch yn medru lleoli'r genres hyn yn nghyd-destun llenyddiaeth Ewrop.


4. Byddwch yn medru darllen detholiad o destunau yn y gwreiddiol (gyda chymorth nodiadau), ac yn medru trosi i Gymraeg Modern rai darnau dethol.


5. Byddwch wedi dysgu sut i ddadansoddi detholiad o gerddi astrus o safbwynt eu hiaith a'u mydr a'u harddull, ac fe fyddwch yn gallu trafod eu gwerth artistig.