Cod y Modiwl CY31820  
Teitl y Modiwl BEIRNIADU LLENYDDIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Yr Athro John Rowlands  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd 40% rhwng y modiwl) gyda o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Amcan y cwrs yw ystyried y gwahanol ffyrdd o ddarllen llenyddiaeth. Bwrir golwg ar brif ffrydiau beirniadaeth yn Ewrop o Blaton hyd y cyfnod modern. Manylir ar brif fudiadau'r ganrif hon, megis Ffurfiolaeth, Y Feirniadaeth Newydd, Strwythuraeth, Ol-strwythuraeth, Dadadeiladaeth, Marcsiaeth, Ffeministiaeth ayyb. Trafodir hefyd ddull rhai beirniaid Cymraeg o ddarllen llenyddiaeth, gan gynnwys J Morris-Jones, W J Gruffydd, Saunders Lewis, J Gwilym Jones a Bobi Jones.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn gallu amlinellu hanes syniadau beirniadol am lenyddiaeth yn y
byd gorllewinol ar hyd yr oesoedd o Blaton hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar
bymtheg.


2. Byddwch yn gyfarwydd a phrif ysgolion beirniadol Ewrop, America a Lloegr
yn ystod yr ugeinfed ganrif.


3. Byddwch yn gallu dadansoddi enghreifftiau unigol o lenyddiaeth (boed yn farddoniaeth, ffuglen neu ddrama) o amryw safbwyntiau gwahanol (e.e.,ffurfiolaidd, Marcsaidd, ol-strwythurol, ffeminyddol).


4. Byddwch yn gyfarwydd â phrif ffrydiau beirniadaeth Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif.