Cod y Modiwl CY31920  
Teitl y Modiwl Y GYFUNDREFN FARDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Yr Athro Gruffydd Williams  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfarteledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gyda o leiaf 50% yn y lodiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Seminarau   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau   25%  
  Arholiad   2.5 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Yn y modiwl hwn olrheinir hynt cyfundrefn y beirdd proffesiynol yng Nghymru. Olrheinir gwreiddiau'r gyfundrefn, gan ystyried y dystiolaeth a oroesodd ymghylch dysgedigion y Celtiaid ar y cyfandir a dysgedigion a beirdd Iwerddon a Phrydain yn y cyfnod cynnar, cyn mynd ymlaen i ymdrin yn fanwl a natur a datblygiad y gyfundrefn yng Nghymru o ddyddiau'r tywysogion annibunnol hyd at eisteddfodau'r beirdd a dirywiad y gyfundrefn yn y unfed ganrif ar bymtheg. Yn ystod y cwrs cynhelir seminar yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru lle caiff myfyrwyr gyfle i weld llawysgrifau gwreiddiol rhai o'r ffynonellau y cyfeirir atynt yn darlithiau.