Cod y Modiwl CY33020  
Teitl y Modiwl Y CANU ARWROL CYNNAR  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Marged Haycock  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Cymraeg Level 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau   11 Awr dosbarth testunol  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Astudiaeth o'r Hengerdd gynharaf hyd c.700. Darllenir nifer o destunau yn y gwreiddiol (ee Canu Taliesin, Canu Aneirin), ac fe'u hystyrir yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.

Canlyniadau dysgu


1. Byddwch wedi dysgu darllen detholiad o gerddi cynnar yn yr iaith wreiddiol (gyda chymorth nodiadau pwrpasol); byddwch yn medru trafod nodweddion llenyddol testunau dethol, ac yn medru lleoli'r testunau yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.


2. Drwy baratoi detholiad o destunau ar gyfer y dosbarth, byddwch wedi ennill profiad o weithio'n annibynnol.


3. Byddwch wedi gwella eich sgiliau cyfieithu drwy lunio aralleiriadau o hen gerddi mewn Cymraeg Modern.


4. Byddwch wedi dysgu sut i fesur a phwyso ystod o ddadleuon cymhleth (e.e. am ddydio'r farddoniaeth).


5. Byddwch yn ymwybodol o ddylanwad yr hen farddoniaeth ar nifer o awduron ar hyd y canrifoedd.