Cod y Modiwl | CY33120 | ||
Teitl y Modiwl | Y CYNFEIRDD DIWEDDAR | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Marged Haycock | ||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
Rhagofynion | Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10811 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 11 Awr | |
Seminarau | 11 Awr dosbarth testunol | ||
Dulliau Asesu | Traethodau | 3,000 o eiriau | 25% |
Arholiad | 2 Awr | 75% |
1. Byddwch wedi dysgu darllen detholiad o gerddi yn yr iaith wreiddiol (gyda chymorth nodiadau pwrpasol); byddwch yn medru trafod nodweddion llenyddol testunau dethol, ac yn medru lleoli'r testunau yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.
2. Drwy baratoi detholiad o destunau ar gyfer y dosbarth, byddwch wedi ennill profiad o weithio'n annibynnol.
3. Byddwch wedi gwella eich sgiliau cyfieithu drwy lunio aralleiriadau o gerddi'r Cynfeirdd Diweddar mewn Cymraeg Modern.
4. Byddwch wedi dysgu sut i fesur a phwyso ystod o ddadleuon cymhleth.
5. Byddwch yn ymwybodol o ddylanwad barddoniaeth y Cynfeirdd Diweddar ar nifer o awduron ar hyd y canrifoedd.
6. Byddwch yn gyfarwydd â phrif genres y Cynfeirdd Diweddar, ac â'r deunydd sy'n gysylltiedig â ffigurau pwysig megis Myrddin, Taliesin, Llywarch Hen a Heledd.