Cod y Modiwl | CY33220 | ||
Teitl y Modiwl | DAFYDD AP GWILYM A'I GYFOESWYR | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Bleddyn Huws | ||
Semester | Semester 1 | ||
Rhagofynion | Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith., CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 22 Awr | |
Dulliau Asesu | Traethodau | 2,000 o eiriau | 25% |
Arholiad | 2 Awr | 75% |
2. Byddant yn gallu diweddaru rhai cywyddau gan Ddafydd ap Gwilym i Gymraeg Diweddar.
3. Byddant yn gyfarwydd â hynt y gyfundrefn farddol yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
4. Byddant yn gwybod am y dylanwadau cyfandirol a fu ar y canu serch Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
5. Byddant yn gyfarwydd â thrafod crefft ac arddull y cywydd deuair hirion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn gynefin â phynciau technegol fel y gynghanedd a chrefft dyfalu.
6. Byddant yn gyfarwydd â'r ysgolheictod diweddaraf ym maes astudio'r Cywyddwyr a dylent fedru trafod barn ysgolheigion a beirniaid yn ddeallus.