Cod y Modiwl | CY33320 | ||
Teitl y Modiwl | BARDDONIAETH Y GANRIF FAWR | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Yr Athro Gruffydd Williams | ||
Semester | Semester 2 | ||
Rhagofynion | Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 22 Awr | |
Dulliau Asesu | Traethodau | 3,000 o eiriau | 25% |
Arholiad | 2 Awr | 75% |
1. Byddwch yn gyfarwydd â detholiad o waith rhai o brif feirdd y bymthegfed ganrif.
2. Byddwch yn gallu adnabod prif genres barddoniaeth Gymraeg y bymthegfed ganrif.
3. Byddwch yn gallu trafod y farddoniaeth yn gyffredinol yn ei chyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.
4. Byddwch yn gallu trafod enghreifftiau o farddoniaeth y cyfnod yn fanwl, gan adnabod rhai nodweddion crefft penodol.