Cod y Modiwl CY33420  
Teitl y Modiwl Y CHWEDL ARTHURAIDD YNG NGHYMRU CYN 1100  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   3.000 o eiriau   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Astudiaeth o'r testunau cynharaf yn y Gymraeg sy'n ymwneud ag Arthur a'i filwyr: Pa wr yw'r porthor, Preiddau Annwfn a Kulhwch ac Olwen.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn deall pwysigrwydd yr hyn a olygir wrth y Chwedl Arthuraidd Gymraeg.


2. Byddwch yn gallu trafod y problemau a wynebir wrth geisio profi bodolaeth Arthur hanesyddol.


3. Byddwch yn gallu darllen y prif destunau cyn-Normanaidd sy'n ymdroi o gwmpas Arthur y Cymry yn yr iaith wreiddiol.


4. Byddwch yn gallu trafod y testunau Arthuraidd Cymraeg mewn modd gwrthrychol.