Cod y Modiwl CY34220  
Teitl y Modiwl CREFFT ADFER IAITH  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Felicity Roberts  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10711 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau   11 Awr lleiafswm o 11 awr  
Dulliau Asesu Adroddiad Prosiect   4,000 o eiriau   30%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Disgrifiad cryno


Modiwl yn ymwneud â'r amryfal agweddau sydd ynghlwm wrth yr ymgais i adfer y Gymraeg yn Nghymru a'i sefydlu fel iaith arferol o un pen i'r wlad i'r llall. Ymdrinnir a'r maes hwn yng nghyd-destun canghennau perthnasol o ddisgyblaeth ieithyddiaeth, megis y ddisgyblaeth newydd a elwir yn Gynllunio Ieithyddol. Gweithir o fewn strategaeth a rennir o dan dri phennawd:


1. Marchnata iaith a denu pobl ati
2. Cyflwyno iaith a'i dysgu yn uniongyrchol i eraill
3. Ehangu parthau'r iaith a hyrwyddo'r defnydd ohoni gan unigolion a sefydiadau.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Bydd gennych ymwybyddiaeth o'r elfennau arwyddocaol yng nghefndir yr iaith Gymraeg a arweiniodd at y sefyllfa ieithyddol sydd ohoni yng Nghymru heddiw.


2. Bydd gennych wybodaeth am sefydliadau a mudiadau yn ein cymdeithas a'r cyfraniad a wnânt at geisio cynnal a hyrwyddo'r iaith Gymraeg.


3. Byddwch yn gallu trafod y seicoleg sydd yn bwysig wrth geisio denu pobl i ddysgu Cymraeg ac i ennyn y Cymry Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn gynyddol.


4. Bydd gennych wybodaeth sylfaenol am fethodoleg dysgu Cymraeg fel ail-iaith, a'r egwyddorion a ystyrir yn bwysig i'w dilyn i gael y llwyddiant mwyaf posibl yn y gwaith.


5. Byddwch yn gallu cymharu sefyllfa ieithyddol Cymru â gwledydd eraill sydd yn ymdrechu i adfer neu i gynnal eu hiaith genedlaethol, ochr yn ochr â iaith fyd-eang.


6. Byddwch wedi dechrau dysgu sgiliau ymchwilio ym maes Cymdeithaseg Iaith gan ddadansoddi data a gesglir, a gosod yr wybodaeth ar ffurf adroddiad.