Cod y Modiwl | CY34320 | ||
Teitl y Modiwl | DIRGELION IAITH | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Felicity Roberts | ||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
Rhagofynion | Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 11 Awr | |
Seminarau | 11 Awr | ||
Dulliau Asesu | Cyflwyniad seminar | 10% | |
Traethodau | 2,000 o eiriau | 15% | |
Arholiad | 2 Awr | 75% |
1. Byddwch yn gyfarwydd â'r termau a ddefnyddir gan ieithyddion i drafod iaith, ac â'r symbolau rhyngwladol a ddefnyddir i nodi seiniau ar bapur.
2. Byddwch yn ymwybodol o fras gategoriau y dosberthir ieithoedd y byd iddynt, a lle a natur gymharol y Gymraeg a'i tharddiad yn eu plith.
3. Byddwch yn gyfarwydd â rhai o'r prif ddamcaniaethau am darddiad iaith ddynol a'i pherthynas â natur y ddynoliaeth a bywyd ar y ddaear.
4. Byddwch yn gallu trafod pa bryd y mae dwy dafodiaith wahanol yn troi'n ddwy iaith wahanol, a pha bryd mae tafodiaith yn troi'n fratiaith, neu yn wir ai un dafodiaith arbennig yw iaith safonol?
5. Byddwch yn gwybod am batrymau cymdeithasegol cyffredin a ddigwydd o ddefnyddio dwy iaith mewn gwledydd lle ceir dwyieithrwydd, yn ogystal â phatrymau gwahanol a all ddigwydd rhwng carfanau gwahanol megis y ddau ryw, neu bobl yn perthyn i genhedlaeth wahanol.
6. Byddwch yn ymwybodol o gydberthynas gwleidyddiaeth a'r defnydd a wneir o iaith, yn arbennig yn y gwledydd Celtaidd.