Cod y Modiwl CY34720  
Teitl y Modiwl CYFRAITH HYWEL DDA  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Morfudd Owen  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Fel arfer Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 3 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau   13 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau + ymarferion   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Astudir testunau Cyfraith Hywel a'u harwyddocâd. Canolbwyntir ar y meysydd canlynol: (i) Y llawysgrifau, 1250-1500; (ii) Hywel Dda a Gwŷr y Gyfraith; (iii) Cyfreithiau'r Llys; (iv) Statws a'i arwyddion; (v) Cyfraith y Gwragedd; (vi) Dosbarthiadau dysgedig; (vii) Ansawdd y rhyddiaith.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y cwrs hwn:


1. Byddwch yn gyfarwydd â natur llawysgrifau Cyfraith Hywel.


2. Byddwch yn gyfarwydd â rhai o brif gysyniadau Cyfraith Geltaidd.


3. Byddwch yn gyfarwydd â Chyfreithiau'r Llys, Cyfraith Galanas a Chyfraith Gwragedd a'u harwyddocâd.


4. Byddwch yn gyfarwydd â phrif nodweddion rhyddiaith ymarferol Cymraeg Canol.