| Cod y Modiwl | DA11910 | ||
| Teitl y Modiwl | MODIWL TIWTORIAL DAEARYDDIAETH | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Rhys Jones | ||
| Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
| Cyd-Ofynion | Dylai myfyrwyr fod yn cymryd o leiaf 30 credyd o blith modiwlau Daearyddiaeth Lefel 1 (GG/DA) | ||
| Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 11 Awr | |
| Dulliau Asesu | Gwaith cwrs | 60% Traethodau; 30 Aseiniadau; 10% Asesesiad Tiwtor | 100% |
Cynllunio gwaith a gosod targedau academaidd a phersonol;
Dysgu i ddefnyddio'r llyfrgell a chreu rhaglen ddarllen effeithiol; dulliau cymryd nodiadau, cydnabod ffynonellau a pharatoi llyfryddiaeth;
Casglu, dadansoddi a dehongli data;
Techneg ysgrifennu traethawd Daearyddiaeth a thechneg arholiad (caiff myfyrwyr eu cyflwyno i sgiliau ysgrifennu da a'r meini prawf a ddefnyddir wrth asesu gwaith ysgrifenedig).
Datblygir ac asesir y sgiliau astudio hyn trwy ddau aseiniad cryno. Yn y semester cyntaf, er enghraifft, gallai hyn gynnwys sgiliau Llyfrgell; yn yr ail semester gellid canolbwyntio ar sgiliau ymchwil wrth gasglu ac adrodd ar ddata maes eilyddol neu leol. Defnyddir marciau'r ddau aseiniad ar gyfer yr asesiad terfynol. Ar ben hyn, rhaid cyflwyno o leiaf pedwar traethawd yn ol cais y tiwtor, a bydd marciau tri ohonynt yn cael eu defnyddio yn yr asesiad terfynol. Bydd pynciau'r traethodau'n amrywio. Gallent gynnwys meysydd tebyg i newidiadau amgylcheddol, neu'r berthynas rhwng hinsawdd a phrosesau morffolegol. Gallent edrych ar effaith twf yn y boblogaeth ar y gymdeithas drefol, neu bwyso a mesur agweddau byd-eang a chenedlaetholdeb, neu newidiadau diweddar yn economi'r byd ac effaith hyn ar amrywiaeth diwylliannol. Mae'r traethodau'n ffurfiannol ac yn gyfansoddol, a dylai myfyrwyr ddisgwyl amateb ac adborth gan y tiwtor ar ol cyflwyno pob darn o waith, ynghyd ag awgrymiadau ar sut i wella traethodau yn y dyfodol.
Y mae'r modiwl tiwtorial yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael yn uniongyrchol a'r gwaith dysgu, i gyfrannu i'r drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eu gwaith mewn grwpiau bach. Ochr yn ochr a'r rol academaidd, gall y trafodaethau gynnwys pynciau fel creu CV, a gyrfaoedd. Bydd barn y tiwtor am berfformiad y myfyriwr yn ei grynswth dros y rhaglen gyfan yn elfen fach o asesiad terfynol y modiwl.
Y mae presenoldeb yn y dosbarthiadau yn orfodol, ac hefyd y mae'n orfodol cyflwyno'r gwaith erbyn y dyddiad a osodir gan y tiwtor. Dylid cytuno ar unrhyw absenoldeb ymlaen llaw gyda'r tiwtor, a rhoi gwybod i'r tiwtor yn syth am ynrhyw achos o salwch. Cosbir unrhyw fyfyriwr sy'n absennol heb eglurhad. Gosodir cosbau penodol am gyflwyno aseiniadau'n hwyr heb reswm da, fel a nodir yn y Llawlyfr Daearyddiaeth.