Cod y Modiwl | DA30320 | ||
Teitl y Modiwl | IWERDDON | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Richard Morgan | ||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | Rhif a pharhad y darlithiau: 8 o ddarlithiau (2 awr yr un ar yr amserlen) | |
Seminarau / Tiwtorialau | Rhif a pharhad y seminarau/tiwtorialau: 3 seminar (2 awr yr un ar yr amserlen) yn seiliedig ar draethodau, darllen penodol a rhaglenni fideo. Cyfanswm o 20 o oriau cyswllt. | ||
Dulliau Asesu | Traethodau | Dau draethawd. Cyflwynir y traethodau erbyn diwedd wythnosau 6 a 11. Os cyflwynir y traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhaur holl elfennau er mwyn pasio'r modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad or holl elfennau. | 50% |
Arholiad | 2 Awr Papur arholiad | 50% | |
Asesiad ailsefyll | Ail-sefyll: Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) a'r traethodau wedi eu hasesu (50%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwyno'r gwaith bydd cyfle i gyflwyno'r elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farciau ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen or gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <40% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 40% yn y modiwl). Rhaid ir traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol i'r rhai a gwblhawyd y tro cyntaf. |
1. Rhagarweiniad: themau mewn daearyddiaeth hanesyddol a diwylliannol.
2. Cynllunio cenedlaethol: pwyslais arbennig ar amddifadedd, poblogaeth a dadansoddiadau strwythurol.
3. Y dimensiwn rhanbarthol: gwahaniaethau rhanbarthol, cynllunio rhanbarthol, canolfannau twf, Dulyn.
4. Cynllunio dros yr ardaloedd gwledig, gyda phwyslais ar yr elfen gydweithredol
5. Cynllunio yn ardaloedd y Gaeltacht, gyda phwyslais arbennig ar bwysigrwydd yr iaith Wyddeleg o fewn y fframwaith cynllunio.
6. Twristiaeth mewn ardaloedd gwledig.
7. Yr Iwerddon yn ei chysylltiadau Ewropeaidd: dylanwad polisiau yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud yn benodol ag amaethyddiaeth a datblygiad rhanbarthol.
8. Syniadau am ddatblygiad yn yr Iwerddon.