Cod y Modiwl DA30820  
Teitl y Modiwl GLOBALEIDDIO A CHWILFRIWIAD  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Richard Morgan  
Semester Semester 2  
Rhagofynion DA10110 , DA10210  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr 10 x 2 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   4 Awr  
Dulliau Asesu Aseiniad   Astudiaeth annibynnol o 2,000 o eiriau i'w gyflwyno yn Wythnos 8   25%  
  Supplementary exmainatino   2 Awr Papur ysgrifenedig   100%  
  Arholiad   2 Awr Dau ateb allan o bedwar cwestiwn   75%  

Amlinelliad o'r modiwl


Pwrpas y modiwl yw cyflwyno dadleuon cyfoes am globaleiddio a chwilfriwiad. Pwysleisir nifer o themau allweddol, sef


Trafodir y themau hyn trwy ystyried nifer o astudiaethau achos (gweler Darlithoedd 7, 8, 9 a 10 isod)
Pynciau'r darlithoedd:

  1. Beth yw globaleiddio/nid yw globaleiddio a chwilfriwiad yn gwrthddweud eu gilydd
  2. Globaleiddio economaidd
  3. Globaleiddio diwylliannol
  4. Globaleiddio gwleidyddol
  5. Cyfyngiadau ar globaleiddio/pwysigrwydd y lleol
  6. Ymwrthod a globaleiddio/globaleiddio oddi isod
  7. Astudiaeth Achos I: tiodi a dyled yng ngwledydd Is Sahara Affrica
  8. Astudiaeth Achos II: mudo, ffoaduriaid, diogelwch ac iawnderau dynol
  9. Astudiaeth Achos III: troseddau - masnach cyffuriau a golchi arian
  10. Astudiaeth Achos IV: crefydd - ffwndamentaliaeth ac actifiaeth crefyddol

Nod y modiwl


(i) ystyriaeth o'r newidiadau byd-eang diweddaraf gan ddefnyddio dulliau damcaniaethol ac astudiaethau achos.


(ii) ymwneud a'r ddadl globaleiddio.


(iii) deall y cyfyngiadau ar globaleiddio, anghyfartaledd prosesau cyfoes ynghyd a phwysigrwydd y 'lleol'.

Amcanion y modiwl / canlyniadau dysgu


(i) defnyddio llenyddiaeth rhyngddisgyblaethol er mwyn dadansoddi pynciau yn ymwneud a newidiaqdau byd-eang, globaleiddio a chwilfriwiad, yn nhermau damcaniaethau ac astudiaethau achos.


(ii) deall natur a rol globaleiddio yn ei gyd-estun hanesyddol.


(iii) datblygu sgilliau dadansoddi o wahanol mathau trwy ddefnydd o lenyddiaeth, ffynonellau ystadegol ac astudiaeth annibynnol (gweler isod).

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
Johnston, R.J. ac eraill (eds). (1998) Geographies of Global Change. Oxford: Blackwell
Dicken, P.. (1998) Global Shift: Transforming the World Economy. Paul Chapman Publishing, London
Held, D. ac eraill. (1999) Global Transformations. Polity Press, Cambridge
Held, D. a McGrew, A. (eds). (2000) The Global Transformations Reader. Polity Press, Cambridge