Cod y Modiwl DA35020  
Teitl y Modiwl DAEAR Y WLAD,CENEDLAETHOLDEB, A DIWILLIANNAU LLEIAFRIFOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys Jones  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion  
Elfennau Anghymharus GG35020  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 (cyfuniad o ddarlith a seminar)  
Dulliau Asesu Cyflwyniad seminar     10%  
  Traethodau   Os cyflwynir i traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhau'r holl elfennau er mwyn pasio'r modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad o'r holl elfennau. Dau draethawd iw cyflwyno yn wythnosau 6 a 11.   40%  
  Arholiad   2 Awr Arholiad dwy awr   50%  
  Asesiad ailsefyll   Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) ar traethodau wedi eu hasesu (40%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwynor gwaith bydd cyfle i gyflwynor elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farcia ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen or gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <40% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 40% yn y modiwl). Rhaid ir traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol ir rhai a gwblhawyd y tro cyntaf.    

Amlinelliad o'r modiwl (Themau darlithoedd)


Cyflwyniad
Sesiwn 1: Cyflwyniad i'r themau sydd yn cael eu harchwilio.


Y wladwriaeth
Sesiwn 2: Diffiniadau a ffurfiant y wladwriaeth gynnar.


Sesiynau 3-6: Y wladwriaeth fodern. Archwilir diffiniadau gwahanol o'r wladwriaeth fodern, yn ogystal a nodi enghreifftiau penodol o natur yr endid hwn.


Cenedlaetholdeb
Sesiynau 7-8: Cysyniadau cenedlaetholdeb hanesyddol a modern.


Sesiynau 9-11: Enghreifftiau modern o fuddiannau a phroblemau cenedlaetholdeb


Diwylliannau lleiafrifol
Sesiwn 12: Y cysyniad o ddiwylliant lleiafrifol.


Sesiynau 13-17: Enghreifftiau hanesyddol a modern penodol yn archwilio natur diwylliannau lleiafrifol.


Sesiwn 18: Casgliad a thrafodaeth.

Amcanion y modiwl / canlyniadau dysgu


Wedi cwblhau'r modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn medru (1) cyfathrebu yn helaeth am y gwahanol ddadansoddiadau a chysyniadau sydd yn ceisio esbonio natur y wladwriaeth a chenedlaetholdeb; (2) dangos eu dealltwriaeth o'r rhyng-berthynas agos rhwng y wladwriaeth fodern a chenedlaetholdeb; (3) mynegu ymwybyddiaeth eang am natur diwylliannau lleiafrifol ledled y byd, ynghyd a gwerthfawrogi y gwahaniaethau a'r tebygrwydd sydd rhyngddynt; (4) dod a themau'r cwrs a'r darllen craidd at ei gilydd; (5) dadansoddi adroddiadau ac erthyglau yn y cyfryngau mewn modd beirniadol, a'u clymu i mewn i brif themau y cwrs.

Nod y modiwl


Bydd y modiwl hwn yn darparu ymwybyddiaeth eang i'r myfyrwyr o gysyniadau sydd yn ymwneud a natur y wladwriaeth, cenedlaetholdeb a diwylliannau lleiafrifol. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i werthfawrogi patrymau a phrosesau rhanbarthol a chenedlaethol yn y maes hwn sydd yn digwydd ledled y byd. Yn ogystal a hyn, bydd y modiwl yn cynyddu gallu dadansoddol, cymharol, beirniadol a chreadigol y myfyrwyr.

Rhestr Ddarllen

Erthygl
Hall, S.. (1995) 'Cultural identity in question' in S. Hall et al. (eds.), Modenity and its Futures.. Polity Press, Cambridge
Anderson, J.. (1996) 'The shifting stage of politics: new medieval and postmodern territorialites'. Society and Space 14, 133-53
Taylor, P.J.. (1995) 'Beyond containers: internationality, interstateness, inter-territoriality'. Progress in Human Geography 19(1), 1-15.