Cod y Modiwl | DD10120 | ||
Teitl y Modiwl | THEATRAU CYMRU | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Yr Athro Ioan Williams | ||
Semester | Semester 2 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mrs Anwen Jones | ||
Cyd-Ofynion | DD10520 i fyfyrwyr gradd Anrhydedd Astudiaethau Thatr yn unig | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Awr 10 darlith 2 awr o hyd | |
Dulliau Asesu | Adroddiad sector gr p | Cyfraniad llafar y myfyrwir mewn seminarau | 20% |
Traethodau | Cofnod ysgrifenedig o waith paratoadol (500 o eiriau ar gyfer pob sesiwn) | 40% | |
Arholiad | Trafodaeth ysgrifenedig estynedig ar ddiwedd y cwrs | 40% |
Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:
Datblygu ymwybyddiaeth o draddodiadau theatraidd Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Cyflwyno detholiad o brif destunau dramayddol Cymraeg a Chymreig y cyfnod rhwng 1880 a 1990.
Cyflwyno'r cysyniad o theatr fel strwythur cymdeithasol y mae'r testunau'n gyfrwng iddo.
Datblygu sgiliau dadansoddiadol a dehongliadol perthnasol.
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
ddangos dealltwriaeth o'r traddodiadau theatraidd yng Nghymru
dadansoddi testun dramataidd fel mynegiant o ddisgwrs theatraidd
trafod a chyd-drafod y deunydd a gyflwynir yn y modiwl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y dulliau traddodiadol academaidd
Cynnwys:
Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig astudiaeth o draddodiadau theatraidd Cymru o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan nawdegau'r ugeinfed ganrif, fel y'u hamlygir drwy gyfrwng prif destunau dramataidd y cyfnod.