Cod y Modiwl | DD10520 | ||
Teitl y Modiwl | SIGLO'R SYLFEINI: CYFLWYNIAD I GYNRYCHIOLI A PHERFFORMIO | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Ioan Williams | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Awr | |
Seminarau | 10 Awr | ||
Dulliau Asesu | Cyflwyniad gr p | 30% | |
Sylwebaeth lafar | 20% | ||
Sylwebaeth lafar | 20% | ||
Portfolio | 30% |
Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig brasolwg o ddiwylliant cyfoes a thraddodiadol yng Nghymru, gan ystyried i ba raddau y mae'r cyfryw ddiwylliant yn arwydd o undod cenedlaethol a chymdeithasol. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymateb yn academaidd ac ymarferol i'r berthynas rhyngddynt a'r gwahanol agweddau ar ddiwylliant Cymru.
Fe fydd y darlithoedd 2 awr yn cynnwys trafodaethau, deunydd gweledol a thasgau ymarferol. Gosodir tasgau wythnosol i`r myfyrwyr yn ystod wythnosau cyntaf y modiwl, a bydd gofyn iddynt gynnwys y rheini mewn portffolio a fydd yn cyfri am 30% o`u marc terfynol.
Amcanion
Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:
Sylwi ar sawl enghraifft bwysig o weithgarwch diwylliannol yng Nghymru
Dangos bod diwylliant yn ddibynnol ar ei gyd-destun
Dangos bod i'r profiad Cyfreig gyd-destun rhyngwladol
Dangos bod rheolau neu gonfensiynau pendant yn dylanwadu ar y berthynas rhwng yr unigolyn a'i (d)diwylliant priodol
Dysgu sgiliau neilltuol i'n myfyrwyr sy'n hanfodol bwysig ar gyfer myfyrio'n effeithiol ar bynciau ym maes yr Adran.
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
Ymateb yn ddadansoddiadol i ddigwyddiadau diwylliannol Cymreig
Cymhwyso'r termau a ddefnyddir yn ystod y cwrs wrth ddadansoddi digwyddiadau a chyfryngau diwylliannol.
Defnyddio nifer o'r sgiliau a gyflwynir yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi digwyddiadau a chyfryngau diwylliannol.