| Cod y Modiwl | DD10820 | ||
| Teitl y Modiwl | PROSIECT YMARFEROL ESTYNEDIG | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||
| Semester | Semester 2 | ||
| Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mr Andrew Freeman | ||
| Rhagofynion | DD10520 | ||
| Cyd-Ofynion | DD10120 , DD10320 | ||
| Manylion y cyrsiau | Prosiect | 120 Awr Prosiect ymarferol | |
| Dulliau Asesu | Prosiect gr p | Prosiect grwp Prosiect grwp, yr asesir cyfraniad yr unigolyn iddo. | 60% |
| Adroddiad | Adroddiad Ysgrifenedig Adroddiad ysgrifenedig ar y broses, lle gofynnir i'e myfyrwyr cynnig sylwebaeth ar y broses o ddyfeisio a chreu'r prosiect a'i roi ef yng nghyd-destun eu gwaith personol, gan gynnig hunan asesiad o'u cyrhaeddiad. | 4% | |
Amcanion y modiwl hwn yw:
Arwain myfyrwyr i ail-ystyried agweddau ar y gwaith y byddant wedi ei gyflawni ym modiwlau Semester 1.
Dyfeisio a datblygu prosiect ymarferol a fydd yn amlygu dealltwriaeth o'r deunydd hwnnw.
Cyflwyno'r prosiect hwnnw mewn cydweithrediad a'u cydmyfyrwyr, gan ddefnyddio sgiliau dadansoddiadol, golygyddol a pherfformiadol perthnasol.
Canlyniadau Dysgu:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru
Dyfeisio prosiect ymarferol a'i ddatblygu, gan ddefnyddio technegau ymchwil perthnasol.
Cydweithio gyda myfyrwyr eraill.
Archwilio dulliau ac ardduliau perfformiadol a chyflwyniadol a fydd yn caniatau iddynt gyflwyno'r prosiect mewn modd effeithiol.
Cynnwys:
Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i grwp o fyfyrwyr i edrych dros y gwaith y byddant wedi ei gyflawni yn yr Adran (yn arbennig y modiwl craidd, DD10520).
Mae dull asesu`r modiwl wedi ei ddyfeisio er mwyn rhoi pwyslais ar y dasg o ddatblygu a chwblhau prosiect ymarferol mewn cydweithrediad gydag eraill. Ar yr un pryd, mae`n sicrhau bod pib unigolyn yn cael cyfle i arddangos hyd a lled ei d/ddealltwriaeth o`r prosiect ac o`r tasgiau gwahanol y bydd ef/hi wedi`u cwblhau yn ystod y broses.