Cod y Modiwl DD21520  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I BERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 2  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Manylion y cyrsiau Sesiwn Ymarferol   8 Awr 8 x 2 awr + cynhyrchiad (tua 120 awr)  
Dulliau Asesu Adroddiad Ymarferol   NODIADAU YMARFER AC YMCHWIL   30%  
  Asesu perfformiad   DATBLYGIAD A CHYFRANIAD IR BROSES YMARFER A PHERFFORMIO   70%  

Disgrifiad cryno


DISGRIFIAD BRAS:


Yn y modiwl hwn cyflwynir rhai o brif sgiliau perfformio drwy gyfrwng gwaith ymarferol gan ganolbwyntio ar elfennau sylfaenol megis corff yr actor, perthynas y corff a`r gofod, symbylu a sianelu emosiwn, ffocysu, canolbwyntio a defnyddio`r dychymyg yn gorfforol a meddyliol.   


Bydd y dosbarthiadau dwy awr wythnosol rhwng dechrau`r Semester a Gwyliau`r Pasg yn cael eu defnyddio i baratoi ar gyfer dangosiad ymarferol. Bydd y sesiynau rhagarweiniol yn ymchwilio i wahanol dechnegau a methodolegau ymarfer a dulliau actio trwy gyfeirio at amrywiaeth o destunau enghreifftiol o wahanol gyfnodau.


PRIF NODAU`R CWRS:


Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:


^ ennill profiad ymarferol o berfformio, a mgu sgiliau penodol fel canolbwyntio, ymddiried, byrfyfyrio a.y.b.


^ gosod eich gwaith creadigol mewn cyd-destun disgyblaethol


ALLANBYNNAU DYSG:


Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:


^ trin y corff a`r llais fel offerynnau creu ystyr ac arwyddion ar lwyfan


^ cyflwyno`u gwaith yn hyderus i gynulleidfa ddethol


^ profi`u gallu i fyfyrio`n wrthrychol ar y broses ymarferol


^ gosod trefn gymwys ar eu profiadau mewn dyddlyfr

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Hanfodol
Mitter, Shomit. (1992) Systems of Rehearsal. Routledge
Moore, Sonia. (1974) The Stanislavsky System. Viking Press
Grotowski, Jerzy. (1975) Towards a Poor Theatre. Methuen
Barba, Eugenio & Savarese, Nicola. (1991) Theatre Anthropology: The Secret Art of the Performer. Routledge/CPR