| Cod y Modiwl | DD23310 | ||
| Teitl y Modiwl | CYFLWYNIAD I DDYLUNIO | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||
| Semester | Semester 2 | ||
| Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 6 Awr 6 x 2 awr | |
| Sesiwn Ymarferol | 4 Awr 4 x 2 awr - Ymweliadau a'r theatr | ||
| Dulliau Asesu | Gwaith ymarferol | ASEINIAD YMARFEROL | 30% |
| Traethodau | TRAETHAWD (2500) | 70% | |
Ffurfiwyd y modiwl hwn yn arbennig i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg fel cyflwyniad i theori dylunio Set a Gwisgoedd a Goleuo a Sain. Yn ystod y darlithoedd fe`ch cyflwynir i egwyddorion sylfaenol y grefft o ddylunio ar gyfer theatre a pherfformio, a bydd cyfle hefyd i chi gyfrannu at sesiynau gweithdy er mwyn datblygu`ch dealltwriaeth o`r egwyddorion hynny ac ymestyn eich sgiliau ymarferol.
PRIF NODAU`R CWRS:
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
^ cyflwyno dylunio yn y theatr fodern
^ diffinio a dadansoddi amryw swyddogaethau`r dylunydd yn y theatr fodern
^ ehangu`ch profiad o theatre fel digwyddiad trwy gyflwyno elfennau o waith gweledol a thechnegol
ALLBYNNAU DYSG
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
^ cyflwyno darn o waith wedi`i ddylunio i safon foddhaol
^ arddangos dealltwriaeth o`r berthynas rhwng gwahanol fathau o waith dylunio a gwahanol ddigwyddiadau theatraidd
^ cymhwyso`u gwybodaeth o egwyddorion y broses o ddylunio er mwyn trafod testunau dramatiadd a chynyrchiadau theatraidd yn fwy awdurdodol