Cod y Modiwl DD23810  
Teitl y Modiwl DADANSODDI GOFOD  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   9 Awr 9 x 2 awr  
Dulliau Asesu Gwaith ymarferol   ARHOLIAD YMARFEROL   50%  
  Gwaith ymarferol   .5 Awr   50%  
  Gwaith prosiect   PROSIECT (3000)   50%  

Disgrifiad cryno


Yn y modiwl hwn, byddwch yn astudio gwahanol ddulliau o drefnu gofod y theatr er mwyn dadansoddi'r berthynas rhwng y drefniadaeth ofodol a natur neu ystyr y digwyddiad theatraidd yn ei grynswth.


Ar ddechrau'r cwrs, fe drafodir y cysyniad o ofod yn gyffredinol, gan nodi'r berthynas gynhenid rhwng ymwybyddiaeth yr unigolyn o ofod ac ymwybyddiaeth yr unigolyn o'i gorff/o'i chorff. Yna, yn ystod y sesiynau canlynol, fe astudir ymddygiad tyrfaoedd, gan nodi rhai o'r dulliau perfformio a ddatblygwyd mewn perthynas a'r ymddygiad hwnnw. Dangosir bod theatr yn yr ystyr gyfoes wedi'i datblygu yn raddol wrth ffurfioli'r berthynas rhwng y dyrfa a'r perfformiwr.


Ar ddiwedd y cwrs, fe fyddwch yn sefyll arholiad ymarferol lle y gofynnir i chi gyflwyno prosiect ymarferol, ac fe gyflwynir nifer o sesiynau llai ffurfiol fel paratoad ar gyfer y prosiect hwn.

Nod


Ein nod wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:


cymharu'r ymdriniaeth o ofod yn y theatr mewn gwahanol gyfnodau hanesyddol;
gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol y cysyniad o ofod theatraidd;
deall bod theatr yn beiriant gofodol sy'n ymchwilio i natur a hunaniaeth yr unigolyn.

Canlyniadau dysgu


Erbyn cwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:


Deall sut y mae trefn y gofod yn cyfrannu at ystyr unrhyw ddigwyddiad theatraidd;
Cyd-weithio mewn grwp at nod a bennir gan eu cyd-aelodau;
Arddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd y dimensiwn gofodol yn hanes y theatr i safon foddhaol trwy gyflwyno traethawd ysgrifenedig;
Ymateb yn greadigol i botensial y gofod a ddewisir gan eu grwp wrth lunio prosiect ymarferol.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
Innes, Christopher. (1983) Edward Gordon Craig. Cambridge University Press
Artaud, Antonin. (1970) The Theatre and its Double. Calder and Boyars
Beacham, Richard. (1987) Adolphe Appia: Theatre Artist. Cambridge University Press

Erthygl
** Hanfodol
Pearson, Mike (golygydd y llyfr: Anna-Marie Taylor). (1997) Special Worlds, Secret Maps: A Poetics of Performance (yn `Staging Wales`). Gwasg Prifysgol Cymru