Cod y Modiwl | DD30120 | ||
Teitl y Modiwl | DADANSODDI THEATR: STRWYTHUR A THESTUN | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Anwen Jones | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Donna Lewis | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 2 awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 Awr 6 x 1 awr | ||
Dulliau Asesu | Traethodau | TRAETHAWD 2000 | 25% |
Traethodau | TRAETHAWD 2000 | 25% | |
Arholiad | 2 Awr | 50% |
Yn y modiwl hwn, fe`ch cyflwynir i rai o brif ddramau y theatr fodern Ewropeaidd, ac i dechnegau dadansoddi sy`n gymwys ar gyfer gosod y testunau hynny yn eu cyd-destun priodol.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gylwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- datblygu technegau dadansoddi a gwerthfawrogi`r testun dramataidd fel model o deip arbennig o theatr
- ymgyfarwyddo a rhai o brif destunau dramataidd y Bedwaredd ganrif ar bymtheg a`r Ugeinfed ganrif
- ehangu`r sgiliau dadansoddiadol a feithrinwyd yn DD10120 yn y flwyddyn gyntaf
- bod yn ymwybodol o theatr fel ffenomenon cymdeithasol a llenyddol cymhleth a chywrain
- amlygu gwahaniaethau arwyddocaol mewn method a swyddogaeth y gwahanol destunau a astudir
- archwilio theatr fel strwythur
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- arddangos eu dealltwriaeth a`u gwybodaeth o`r Theatre Ewropeaidd drwy ddadansoddi testunau dramataidd a`u gosod yng nghyd-destun datblygiad y Theatr Ewropeaidd yn y cyfnod dan syle
- ymateb yn feirniadol i`r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes, yn ogystal a`u triniaeth dadansoddiadol o`r testun dramataidd, i`w gwaith ysgrifenedig
- mynegi eu hamgyffrediad o`r Ddrama fel amlygiad o fath ar Theatre, gan fedru esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol fyw, ar lafar ac ar bapur