Cod y Modiwl | DD30220 | ||
Teitl y Modiwl | DADANSODDI CYNHYRCHIAD | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Donna Lewis | ||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 1 awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr 5 x 1 awr Yn ogystal a hyn, bydd 8 sesiwn 2 awr o hyd yn ymweld a`r theatr | ||
Sesiwn Ymarferol | 8 Awr 8 x 3 awr ymweliad a'r theatr | ||
Dulliau Asesu | Sylwebaeth lafar | 3 Awr SYLWEBAETH 1 (1500) | 25% |
Sylwebaeth lafar | 3 Awr SYLWEBAETH 2 (1500) | 25% | |
Arholiad | 2 Awr ARHOLIAD (2 AWR) | 50% |
Yn y modiwl hwn byddwch yn archwilio`r cynhyrchaid fel cyfanwaith theatraidd, gan sylwi ar yr elfennau hynny sy`n dod at ei gilydd i roi ansawdd ac ystyr arbennig i`r cyfan. Byddwch yn mynychu perfformiadau o destunau theatraidd priodol. Mae`n debygol y bydd rhyw gyfran o`r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gynyrchiadau yr RSC yn Stratford, a chyfran arall yn canolbwyntio ar gynyrchiadau a gyflwynir yn lleol.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- astudio`r gwahanol elfennau sy`n vyfrannu at ystyr y weithred theatraidd
- ymgyfarwyddo a rhychwant eang o gynyrchiadau theatraidd trwy fynychu cyfres o berffromiadau
- darllen a deall cynhyrchaid fel `testun` theatraidd
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon cyffedin fedru cyflawni`r canlynol:
- arddangos eu dealltwriaeth o`r cynhyrchaid theatraidd fel celfyddyd ac fel cymyrch, gan fanylu ar y ffactorau celfyddydol, dywylliannol ac economaidd sy`n vyfrannu at greu`r cynhyrchaif (ar lafar ac ar bapur)
- trafod y cynhyrchaid theatraidd yn ei holl gymhlethdod, gan amlygu eu dealltwriaeth o`r cynhyrchaid fel digwyddiad aml-gyfrwng
- dadansoddi gwaith theatr fyw drwy arsylwi ar y modd y strwythurir y cynhyrchaid, ac asesu eu hymateb personol fel aelod o`r gynulleidfa
- arddangos eu bod yn ymwybodol o berthynas testun dramataidd a chynhyrchaid theatraidd, a`r cyfryw brosesau sydd ynghlwm wrth drawsosod drama ysgrifenedig yn gynhyrchaid theatraidd