Cod y Modiwl | DD30620 | ||
Teitl y Modiwl | THEATR CYMRU | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Anwen Jones | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Ioan Williams | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 11 x 2 awr | |
Dulliau Asesu | Traethodau | TRAETHAWD (2500) | 40% |
Arholiad | 2 Awr ARHOLIAD (2 AWR) | 60% |
Yn y modiwl hwn, astudir dramau o 1913 i`r presennol yng nghyd-destun ein gorolwg o ddatblygiad y Theatr Gymraeg yn y ganrif hon. Yn narlithoedd y modiwl hwn, edrychir ar dwf y mudiad ar droad y ganrif ac ar ddylanwad Ibsen a`i ddilynwyr ar ffurf a chynnwys y ddrama gegin Gymraeg. Ystyrir i ba raddau y datblygwyd ac y gwyrwyd y `traddodiad` Ibsenaidd cynnar gan rai o`r dramodwyr amlycaf a ddaeth wedi hynny, gan gynnwys Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry, Wil Sam a Meic Povey.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyino`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol y ddrama Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif
- gosod rhai o ddramau amlycaf y cyfnod yn eu cyd-destun athronyddol, cymdeithasol ac artistig
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cylfwyno trafodaeth gynhwysfawr o werth y traddodiad dramataidd yng Nghymru ochr yn ochr a`r traddodiad Prydeinig ac Ewropeaidd
- llunio trafodaeth gytbwys o`r berthynas rhwng yr elfennau cyndeithasol a`r elfennau artistig o fewn gwaith unrhyw un o`r dramodwyr a astudiwyd.
- cymhwyso`r wybodaeth a gyflwynir yn y sesiynau dysgu wrth geisio tafoli dylanwad a gwerth y dramau a astudiwyd
- ymateb yn gryno a hyblyg i gwestiynau ynglyn a thechneg dramataidd y dramodywr a astudiwyd, gan sylwi`n arbennig i ba raddau y mae gweledigaeth y cyfryw ddramodwyr yn gynnyrch eu cymdeithas, as i ba raddau y mae`n gwrthdaro a`u cyndeithas